Rhagfyr 2016

Annwyl Gyfaill

Llais cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a'r sefydliadau datganoledig

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i waith rhyng-sefydliadol. Mae'r Pwyllgor yn bwriadu adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes gan ddeddfwrfeydd eraill ar y mater hwn, gan gynnwys Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredinol; Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi a Phwyllgor Datganoli (Pwerau Pellach) Senedd yr Alban.

Mae'r Pwyllgor wedi pennu'r amcanion canlynol ar gyfer yr ymchwiliad:

Amcanion yr ymchwiliad:

Llunio egwyddorion arfer gorau ar gyfer dulliau o weithio rhwng sefydliadau ar gyfer deddfwriaeth gyfansoddiadol.

Ystyried gwaith deddfwrfeydd eraill o ran eu dulliau o weithio rhwng sefydliadau ac adeiladau arno pan fo'n ymwneud â meysydd polisi ehangach.

Ceisio, sefydlu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dulliau o weithio rhwng seneddau, gan gynnwys hyrwyddo'r broses o ymgysylltu â dinasyddion.

Mae'r Pwyllgor wedi rhannu'r gwaith yn ddwy ffrwd. Byddwn yn dechrau gweithio ar yr elfen gyntaf ym mis Ionawr, gyda'r nod o orffen gwaith ar y ddwy ffrwd erbyn haf 2017.

Cylch gorchwyl

Er mwyn ein helpu gyda'n gwaith, byddem yn croesawu eich barn ar unrhyw un neu bob un o'r pwyntiau canlynol:

Ffrwd I: Cysylltiadau rhyng-sefydliadol [Materion cyfansoddiadol]

Adolygu sut y mae cysylltiadau rhyng-sefydliadol wedi dylanwadu ar ddatblygiad datganoli yng Nghymru ers 1998. 

Bydd hyn yn ystyried y canlynol:

·         Sut y mae dulliau rhyng-lywodraethol wedi effeithio ar ddatblygiad y setliad datganoli.

·         Sut y mae cysylltiadau rhyng-lywodraethol wedi datblygu ac esblygu, yr hyn a oedd yn llwyddiannus, a sut y mae'r cysylltiadau hyn wedi effeithio ar y setliad datganoli.

·         Sut y mae cysylltiadau rhyng-seneddol wedi esblygu, cyflwr presennol y cysylltiadau hyn, a sut y gellid eu datblygu ymhellach o ran y gwaith o ddatblygu deddfwriaeth gyfansoddiadol a chraffu arni.

 Frwd II: Cysylltiadau rhyng-sefydliadol [Materion polisi]

Drwy adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes ar draws y DU er mwyn archwilio ymhellach o fewn y cyd-destun Cymreig:

·         Natur y cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sut  y mae'r cysylltiadau hyn yn gweithredu a sut y gellir eu gwella.

·         Gwella cyfleoedd i lywodraethau a seneddau ddysgu am bolisïau ar y cyd.

·         Arfer gorau o ran cysylltiadau rhyng-sefydliadol ar draws y DU y gellid ei ddefnyddio yn y cyd-destun Cymreig.

·         Natur y cysylltiad rhwng deddfwrfa Cymru a deddfwrfa'r DU a chanfod cyfleoedd a chanfod cyfleoedd i seneddau weithio'n fwy effeithiol â'i gilydd.

Cynnwys unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â chysylltiadau rhyng-sefydliadol, gan gynnwys y goblygiadau perthnasol sy'n deillio o'r ffaith bod y DU yn gadael yr UE.

 

Gwahoddiad i gyfrannu

Mae'r Atodiad yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am weithdrefnau'r ymgynghoriad, a dylid ystyried y rhain yn ofalus cyn cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor. Dylech gyflwyno'ch sylwadau erbyn dydd Llun 5 Mehefin 2017. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Gareth Williams, Clerc y Pwyllgor ar 0300 200 6362 / SeneddMCD@cynulliad.cymru

Yn gywir

Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.

Atodiad

Cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor

Datgelu gwybodaeth

1.  Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma; gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Fel arall, mae croeso i chi gysylltu â'r Clerc i ofyn am gopi caled o'r polisi hwn.

Cyflwyno tystiolaeth

2.  Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddMCD@cynulliad.cymru

Fel arall, gallwch ei hanfon at:
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA.

3.  Dylai sylwadau gyrraedd erbyn 5 Mehefin 2017. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

4.  Wrth baratoi eich sylwadau, cadwch y canlynol mewn cof:

 

Canllawiau ar gyfer tystion sy'n darparu tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau

5.  Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Diben y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy’n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau. Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.

·                     Defnyddiwch Gymraeg a Saesneg clir gan osgoi jargon diangen.

·                     Defnyddiwch ffont sydd o leiaf maint 12.

·                     Defnyddiwch ffont glir sans-seriff, fel Lucida Sans. 

·                     Peidiwch ag ysgrifennu dros luniau, graffeg neu ddyfrnodau.

·                     Lliwiau a chyferbyniad - dylai’r ysgrifen gyferbynnu gymaint â phosibl â’r cefndir: ysgrifen dywyll ar gefndir golau, ac ysgrifen olau ar gefndir tywyll.

·                     Peidiwch â defnyddio priflythrennau bloc, a cheisiwch osgoi defnyddio print trwm, print italig a thanlinellu.

·                     Os ydych yn cyfeirio at ddogfen sydd wedi’i chyhoeddi, rhowch hyperlinc at y ddogfen honno, yn hytrach na’r ddogfen ei hun.

 

6.  Lle bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word er mwyn sicrhau hygyrchedd. Pan fyddwch chi’n cyflwyno sgan neu ddogfen PDF, yn enwedig llythyrau wedi’u llofnodi neu dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno’r ddogfen Word wreiddiol hefyd.

Cyffredinol

7.  Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â diddordeb yn y pwnc hwn. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad. 

8.   Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill iaith neu’r llall neu’r ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg. Ni chaiff cyfraniadau a gyflwynir yn un o’r ieithoedd yn unig eu cyfieithu, ac yn yr iaith honno yn unig y cânt eu cyhoeddi.

 

9.  Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig.

10.  Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor wedi gwahodd amrywiaeth eang o sefydliadau i roi sylwadau; mae rhestr o'r rhain ar gael ar gais. Mae copi o’r llythyr hwn hefyd wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau. Fodd bynnag, byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr ymgynghori a’r Atodiad at unrhyw unigolyn neu sefydliad y credwch yr hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad.